PEDAL.
PERTHYN.
FFYNNU.
REIDIWCH GYDA NI
EIN TAITH
Mae Clwb Beicio Towy Riders yn glwb ‘Go-Ride’ achrededig Beicio Prydain sydd wedi’i leoli yn Felodrom Caerfyrddin. Mae'r clwb yn cynnal sesiynau hyfforddi rheolaidd yng Nghaerfyrddin a'r cyffiniau ar gyfer dechreuwyr, canolradd ac uwch. Mae llawer o aelodau’n symud ymlaen i gymryd rhan mewn digwyddiadau a rasys wedi’u trefnu ledled Cymru a’r DU.
​
Beth bynnag yw eich oedran neu'ch gallu, gall ein tîm o hyfforddwyr achrededig cynnig hyfforddiant beicio pleserus, cynhwysol a blaengar mewn amgylcheddau diogel, di-draffig a theithiau tywys o amgylch yr ardal leol.
​
Felly beth bynnag yw eich cymhelliant i feicio, efallai i ddysgu seiclo, cynnal (neu adennill?) iechyd a ffitrwydd, i ddatblygu eich sgiliau a'ch galluoedd ar gyfer her neu ras, neu efallai ar gyfer cwmni ar reid gymdeithasol, dewch i ymuno â ni!
CYFLEOEDD GWIRFODDODOL
Helpwch ni i drefnu digwyddiadau, arwain reidiau, neu gefnogi ein mentrau cymunedol. Rydym o hyd yn edrych am wirfoddolwyr i gynorthwyo fel hyfforddwyr. Mae eich cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth ac yn helpu sicrhau twf ein cymuned feicio! Allech chi ymuno â'n tîm hyfforddi? Nid oes angen i chi fod yn feiciwr eich hun, y brwdfrydedd i helpu i ddatblygu ein beicwyr sydd angen. Mi fyddwn yn eich cefnogi chi trwy'r cymhwyster gyda Beicio Prydain.
BEICIO'N GRYF GYDA'N GILYDD
DILYNWCH NI AR STRAVA
EWCH >