top of page

CYFLYM.
MANWL.
CYFFRO!

BEICIO TRAC

Mae beicio trac yn addas ar gyfer ystod eang o feicwyr.

​

 

Mae athletwyr sbrint yn tueddu o fod yn gyhyrog ac yn gallu cynhyrchu pŵer enfawr am bellteroedd byr, tra bod beicwyr dygnwch yn ysgafnach ac yn fwy addas ar gyfer cynnal cyflymder uchel dros bellteroedd hirach.

 

Am rragor o wybodaeth am feicio trac, ewch i www.britishcycling.org.uk/track

RHEOLAU TRAC

​​

  • Sicrhewch fod eich beic yn cael eu cynnal a chadw yn dda ac mewn cyflwr gweithio da cyn mynychu sesiwn beicio trac.

  • Gwisgwch helmed a menig wedi'i chymeradwyo bob tro.

  • Ewch ar y trac pan fydd person cyfrifol wedi rhoi caniatâd – gwiriwch ddiogelwch eich hun bob tro

  • Gwrandewch ar yr hyfforddwr neu’r person sy’n gyfrifol am y sesiwn.

  • Gwrandewch ar y beicwyr cyfrifol sydd yn y grŵp – mae’r rhain wedi cael eu dewis gan y clwb i’ch helpu a gwneud pethau mor ddiogel â phosibl.

  • Peidiwch â defnyddio iaith anaddas ar unrhyw adeg.

  • Cymerwch ofal bob tro i beidio â rhoi unrhyw feiciwr arall neu berson sy’n sefyll ar neu ger y trac mewn perygl.

  • Dylai beicwyr fynychu’r sesiwn sydd fwyaf addas i’w hanghenion – ni ddylent gyflymu sesiwn nad yw wedi’i bwriadu ar eu cyfer. Bydd beicwyr yn cael gwybod os dylent feicio o dan neu uwchben y llinell las.

Lifting a Bike

YMUNWCH Â'N CLWB

 

 

Mae aelodaeth y clwb yn cael ei reoli drwy teclyn rheoli Beicio Prydain. Yn ystod y broses gofrestru gychwynnol bydd angen i bob aelod newydd greu cyfrif ar-lein gyda Beicio Prydain.

bottom of page