
TAITH DDIOGEL.
ANTURIAETHAU
MAWR.
SESIYNAU GO-RIDE (dan 16)
Beth?
Mae Go-Ride yn rhaglen Beicio Prydain ar gyfer datblygu sgiliau beicio i blant.
Pryd?
Cynhelir sesiynau GoRide yn wythnosol ar foreau Sadwrn, gan reidio mewn un o 4 sesiwn grŵp. Mae’r grŵp cyntaf yn dechrau am 9:30 a’r pedwerydd grŵp yn gorffen am 12:45. Mae'r grwpiau'n seiliedig ar sgiliau'r beiciwr a chafwyd eu dyrannu gan hyfforddwyr y sesiwn. Disgwylir i feicwyr fod yn barod 15 munud cyn amser cychwyn eu grŵp ar gyfer sesiwn friffio a "gwiriad M".
Ble?
Ar hyn o bryd mae gennym fynediad i nifer o leoliadau gan gynnwys Parc Caerfyrddin, Maes Sioe Caerfyrddin a Pharc Cymunedol Llangynnwr. Bydd y lleoliad/sesiwn yn cael ei gadarnhau gan ddefnyddio grŵp WhatsApp a chyfryngau cymdeithasol cyn i’r sesiwn ddechrau.
Sut?
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n sesiynau, cysylltwch â ni gan nodi enw cyntaf, oedran ac unrhyw brofiad beicio blaenorol eich plentyn. Rhaid i'ch plentyn fod yn feiciwr cymwys ar 2 olwyn (heb 'stabiliser').
​
Rydym wedi profi galw mawr ers y pandemig Coronafeirws tra hefyd wedi'i gyfyngu ar faint o feicwyr y gallwn eu hyfforddi'n ddiogel, felly mae rhestr aros am leoedd. Byddwch yn cael eich ychwanegu at y rhestr aros a bydd un o'n hyfforddwyr yn cysylltu â chi pan fydd lle ar gael. Bydd eich plentyn yn cael ei ddyrannu i grŵp priodol ac yn cael cynnig i gofrestru a thalu am y bloc cyntaf o sesiynau. Ar ôl y cyfnod prawf cychwynnol hwn bydd disgwyl i chi ymuno â'r clwb ac elwa ar gyfarwyddyd ein Tîm Hyfforddi Beicio Prydeinig cymwys.
Dilyniant
Mae diogelwch yn ystod y sesiynau yn hollbwysig i ni. Mae dilyniant i fyny drwy'r grwpiau yn seiliedig ar sgiliau, a bu rhaid i feicwyr ddangos eu gallu i reidio'n ddiogel gydag eraill cyn symud ymlaen. Efallai teimlai beicwyr hŷn eu bod mewn grŵp gyda phlant llawer iau, ond mae profiad yn dangos eu bod yn symud ymlaen yn gyflymach i'r grŵp nesaf unwaith bydd yr hyfforddwr yn meddwl eu bod yn barod.
Mae'r clwb yn cynnal sesiynau datblygu rasio ar nos Fawrth ar gyfer y beicwyr mwy medrus. Mae hyn trwy wahoddiad hyfforddwr y sesiwn, mae croeso i chi drafod gyda'ch hyfforddwr yn ystod y sesiynau bore Sadwrn.
Yn ogystal â gwella eu sgiliau beicio sylfaenol, mae llawer o aelodau'r Clwb mynd ati i gystadlu'n llwyddiannus mewn categorïau ieuenctid ar lefelau Rhanbarthol a Chenedlaethol.
BEICIO IEUENCTID, POTENSIAL DDIDERFYN














