Yn gryno, y ffurf buraf o rasio'ch beic - dim ond chi a’ch beic yn teithio pellter penodedig rhwng pwynt dechrau a diwedd, ag yn erbyn y cloc (h.y. MOR GYFLYM Â PHOSIB!). Oherwydd y disgrifiad sylfaenol hwn, nid yw'n syndod y disgrifir gan feicwyr a threfnwyr fel "Y RAS O WIRIONEDD" - rydych ar ben eich hun - does dim cuddio. Mae'r ddisgyblaeth hon yn digwydd ar ffyrdd cyhoeddus, felly mae diogelwch yn hollbwysig. Felly, pan ddywed "beiciwch mor gyflym â phosib" mae'n digwydd yn ddiogel ac o fewn Rheolau'r Ffordd Fawr a gan ystyried defnyddwyr eraill y ffordd. Ond peidiwch â chael eich rhwystro gan ddifrifoldeb y gystadleuaeth. Mae'r ddisgyblaeth yn hwyl gan eich bod yn cystadlu yn erbyn eich hun (hynny yw, tan eich bod yn dechrau edrych ar amseroedd eraill o'ch cwmpas ac mae eich elfen gystadleuol yn cicio i mewn!!).
​
Mae dau fath o ddigwyddiadau, "Clwb" ac "Agored". Trefnwyd y cyn-fath yn wythnosol neu bob bythefnos gan Glybiau lleol ar gyfer eu haelodau a’r rhai o'r clybiau cyfagos. Tra bod y digwyddiadau agored ar gael i feicwyr ar draws y Rhanbarthau. Mae’r holl gystadlaethau’n digwydd ar gyrsiau ledled y DU ar bellteroedd penodedig o 10 milltir i 24 awr (ie’n onest - beicio am ddiwrnod cyfan). Adnabyddir y cyrsiau trwy'r rhifau sy'n seiliedig ar y Rhanbarth a chynhaliwyd (e.e. mae Rhanbarth De Cymru lle mae TRCC yn perthyn yn rhoi'r llythyren "R" cyn ei holl gyrsiau). Gellir dod o hyd i restr o'r holl ddigwyddiadau yn y Rhanbarth (a thu allan) ar wefan Treialon Amser Beicio (CTT). Nid yn unig y mae yna ddigwyddiadau unigol ond mae cyfresi o ddigwyddiadau Cenedlaethol a lleol lle gallwch herio'ch hun yn erbyn eraill sydd tu allan i'ch Clwb. Mae'r rhain yn cynnwys "Cyfres Geltaidd" o fewn Rhanbarth De Cymru, digwyddiadau pellter Cymdeithas Beicio Cymru a hefyd Pencampwriaethau Cenedlaethol.